Gwesteion
Rachel Cooper
Ganwyd Rachel Cooper yn Ne-orllewin Lloegr a dechreuodd ganu’r ffidl pan oedd hi’n 4 oed. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Chichester lle cafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf am ei pherfformiad ar y ffidl.

Liz Stafford
Dr. Liz Stafford yw cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori addysg cerddoriaeth byd-eang, Music Education Solutions®, golygydd Primary Music Magazine, ac awdur The Primary Music Leader’s Handbook (Harper Collins).

Helen Mead
Mae Helen Mead wedi bod yn athrawes gynradd ac yn arbenigwraig cerddoriaeth am dros ugain mlynedd. Mae hi wedi gweithio i hybiau cerddoriaeth lleol fel athrawes offerynnol beripatetig ac athrawes y cwricwlwm cerddoriaeth a threuliodd 11 mlynedd fel yr arweinydd cerdd mewn ysgol gynradd ganol dinas fywiog yn Southampton.

Sarah Lloyd
Mae Sarah Lloyd yn arbenigwraig cerddoriaeth gynradd a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad. Mae’n hyfforddi ac yn mentora arweinwyr ac athrawon anarbenigol i ddatblygu darpariaeth gerdd ac addysgu cerddoriaeth yn eu hysgolion.

Sam Stimpson
Mae Sam Stimpson (hi) yn ymgynghorydd Addysg Cerddoriaeth a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad arobryn, yn gymrawd Clore ac yn Sylfaenydd a Rheolwr-gyfarwyddwr SLS 360, cwmni ymgynghoriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad.
Mae ei gwaith yn cefnogi, yn herio ac yn grymuso unigolion a sefydliadau i fod yn feiddgar ac yn ddewr yn eu gwaith i ddileu anghyfiawnder a gwahaniaethu a pheri newid cadarnhaol.

Lucy Clement-Evans
Ymarferydd Ewrhythmeg Dalcroze a Kodály cymwys yw Lucy Clement-Evans, sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phlant dan 7 oed. Mae’n mwynhau helpu plant i ddysgu am gerddoriaeth wrth ganu, symud a chael llawer o hwyl!

Chris Fower
Mae Chris yn addysgwr, arweinydd ac arloeswr mewn dysgu offerynnau pres. Ar ôl hyfforddi yng Nghonservatoire Leeds a’r Academi Gerdd Frenhinol, aeth ymlaen i fwynhau gyrfa perfformio llawrydd lwyddiannus ochr yn ochr ag ymgynghori gwneuthurwyr offerynnau pres.
